GRŴP TRAWSBLEIDIOL AR SIOPAU BACH

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd am 08.30 ar 15 Hydref 2013 yn Nhŷ Hywel

YN BRESENNOL:

Janet Finch-Saunders AC (JFS)

Cadeirydd

Elin Jones AC (EJ)

Aelod o'r Grŵp Trawsbleidiol

Rhodri Glyn Thomas AC (RGT)

 

Eluned Parrott AC (EP)

 

Russell George AC (RG)

 

Simon Stranks (SS)

Janet Finch-Saunders AC

Mair Roberts (MRR)

Ysgrifennydd

Shane Brennan (SB)

ACS

Laura Doel (LD)

Alun Davies AC

Phil Bale (PB)

Julie Morgan AC

Alexander Phillips (AP)

William Powell AC

Mark Roberts (MR)

The Co-operative Group

David Yates (DY)

Blakemore

Janet Read (JR)

Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Manwerthu

Sophie Traherne (ST)

Swyddfa Grŵp Ceidwadol

 

 

1.YMDDIHEURIADAU

 

Keith Davies AC

 

 

2.CYFLWYNIAD

 

Croesawodd JFS bawb a oedd yn bresennol i gyfarfod cyntaf y Grŵp Trawsbleidiol ac amlinellodd ei bwysigrwydd yn codi materion polisi a allai gael effaith ar siopau bach a dylanwadu arnynt, ac amlygodd y sector fel elfen allweddol i economi Cymru. Rhoddodd JFS hefyd amlinelliad o'i gyrfa hir yn y sector manwerthu annibynnol.

 

3.CYFLWYNIAD GAN SHANE BRENNAN, ACS

 

Rhoddodd SB o'r Gymdeithas Siopau Cyfleustra gyflwyniad ar y cyfraniad a wneir gan y sector siopau cyfleustra i economi Cymru, a oedd yn cynnwys ffigurau ar nifer y siopau a swyddi yn y sector yng Nghymru. Eglurodd hefyd gydweithrediad ACS gyda'r Cydffederasiwn Manwerthwyr Annibynnol, yr oedd yn gobeithio y bydd hefyd yn gallu cymryd rhan yn nweithgareddau'r Grŵp Trawsbleidiol.

 

Dilynwyd cyflwyniad SB gan gynnig o ran pa bynciau polisi y dylai'r Grŵp eu trafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, gan gynnwys: costau eiddo, parcio a materion cynllunio.

 

 

 

Y Gymraeg

 

Yn dilyn y cyflwyniad, gofynnodd JFS i SB am nifer y perchenogion siopau cyfleustra a'r gweithwyr sy'n siarad Cymraeg. Atebodd SB fod 27% o berchenogion siopau cyfleustra yng Nghymru yn siarad Cymraeg. Rhoddodd MR wybod i'r Grŵp Trawsbleidiol am waith y Co-Operative Group gyda Chomisiwn  y Gymraeg i ddarparu pecyn cymorth iaith Gymraeg i gyflogeion.

 

Peiriannau arian parod

 

Mynegodd RGT bryderon ynghylch peiriannau ATM sy'n codi ar gwsmeriaid, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig. Sicrhaodd MR a SB y Grŵp nad yw manwerthwyr yn gyffredinol yn dymuno codi ar gwsmeriaid ar gyfer y defnydd o beiriannau ATM.

 

Parcio

 

Trafododd y Grŵp y manteision a'r anfanteision o orfodaeth a darpariaeth parcio. Amlygodd EJ lwyddiant cynllun gorfodaeth parcio yn Aberystwyth a rhybuddiodd efallai nad darpariaeth parcio 'am ddim i bawb' yw, o reidrwydd, y ffordd orau i gwsmeriaid allu cael mynediad at siopau lleol. Siaradodd SB am waith y Gymdeithas Rheoli Trefi a Dinasoedd mewn perthynas â pharcio yng nghanol trefi, ac awgrymodd y gallai'r sefydliad hwn gymryd rhan yng nghyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol yn y dyfodol.

 

Cynllunio

 

Mynegodd LD ei phryderon ynghylch archfarchnadoedd sy'n cael caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau mawr yn ymyl y dref neu y tu allan i'r dref ar y sail y bydd cyfleoedd cyflogaeth yn cael eu creu ond nad oes unrhyw fwriad o greu siop ar y safle hwnnw, gan nodi enghreifftiau o Flaenau Gwent.

 

Yn dilyn y drafodaeth, CYTUNWYD y byddai ACS yn dosbarthu cyflwyniad SB i'r Grŵp Trawsbleidiol.

 

4.SGILIAU

 

Amlinellodd JR ymgyrch 'Stryd Fawr Ffyniannus' yr Academi Sgiliau Genedlaethol ar y cyd â Llywodraeth Cymru i annog manwerthwyr i wella eu sgiliau. Eglurodd ei bod yn anodd annog manwerthwyr i gymryd rhan yn y cynllun.

 

Gofynnodd EP i JR am ei barn ar beth oedd yn rhwystro manwerthwyr rhag manteisio ar y hyfforddiant a ddarperir. Dywedodd JR fod y rhesymau'n cynnwys diffyg amser, dim digon o staff yn y siop, a bod yn anghyfarwydd â gwella sgiliau. Pwysleisiodd JR fod manwerthwyr yn fwy tebygol o ymateb i dystiolaeth gan fanwerthwyr eraill o fanteision y cynllun nag i'r Academi.

 

 

6.    BLAENORIAETHAU AR GYFER Y GRŴP

 

Cafodd pynciau cyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer y dyfodol eu trafod a'u CYTUNO. Roedd y pynciau hyn yn cynnwys:

·         Enghreifftiau o arfer gorau gan fanwerthwyr

·         Cynllunio

·         Sgiliau

·         Dydd Sadwrn Busnesau Bach